10/09/2026
Match Report Gwil John
Penmaenmawr 2-4 Felin
Cynghrair Ardal Gogledd Orllewin
Dydd Sadwrn, Awst 29in
Cal Mac ddim ar gael (pynctiar ar y ffordd yma!), a dau centre-back, Dyl ac Al Hughes, allan wedi brifo, efallai fod lle i bryderu. Ond mae sgwad cryf iawn gan Felin y tymor yma, ac fel mae’r sgôr yn awgrymu, toedd colli chwaraewyr dylanwadol fel rhain ddim yn broblem.
Ar ol gwynebu chydig o bwysau gan y tîm cartref am ryw 10 munud, daeth Felin i fewn i’r gêm, yn chwarae peldroed bendigedig ar adegau, yn torri drwy’r tîm cartref dro ar ol tro ac yn creu cyfleon. Yn wir methwyd sawl cyfle cyn i Alwyn roi Felin ar y blaen ar ol 17 munud, yn penio’r bêl i’r rhwyd, croesiad da gan Iw Eds. Jest cyn y gôl, bu Iw Eds yn anlwcus braidd, yn rowndio’r gôli ond ffeindio ei hun efo gormod o ongl i sgorio.
Daeth Iw Eds yn agos eto ryw funud wedyn yn dilyn pas dda o ganol y cae gan Owen Chidley, y gôli yn arbed. Ac Alwyn wedyn yn agos ryw funud yn ddiweddarach. Dachi yn cael y jist? Felin yn dominêtio ond yn methu sgorio.
Yna daeth Pen yn gyfartal, gôl chydig yn sofft i ddweud y gwir. Yr amddiffyn chydig yn araf i glirio, ond roedd hyn wedi dod o ymosodiad prin gan y tîm cartref.
Bron i Gruff sgorio efo shot/croesiad o bellter ar ol 26 munud, y gôli yn cael blaen ei fysedd i’r roi y bel dros y bar. Ond ar yr hanner awr, yn dilyn gwaith da gan Alwyn a Gruff Bach, dyma Iw Eds yn dod a Felin yn ôl ar y blaen. Gôl o safon. Bu bron i Iw Eds sgorio un arall cyn hanner amser, Gruff Bach eto yn creu, a’r gôli yn safio unwaith eto. Felin i fyny 2-1 hanner amser felly, ond fuasai hi wedi medru bod yn 5-1 o leiaf.
Ddigon tebyg oedd hi yn yr ail hanner. Iw Bonc yn cael cyfle tri munud i fewn i’r hanner, cyn i Alwyn fanteisio ar ansicrwydd yn amddiffyn Penmaenmawr a’i gwneud hi’n 3-1, hyn ar ol 54 munud.
Ar ol 67 munud, chwipiodd Berian un o’i “trade-mark” crosses efo Gruff yn penio i fewn i’w gwneud hi’n 4-1. Yn wir aeth pethau chydig yn fler. A phan gafodd Jack ei hacio oddi-ar y bêl, aeth hi’n wirioneddol flêr! Welodd y reff ddim o’r digwyddiad, ond roedd y leisman wedi gweld, ac ar ol lot o falu cahu a ffraeo, dangosodd y reff y cerdyn coch. Cafodd Jack un melyn hefyd am ei drafferth- yn ddealladwy, roedd o wedi gwylltio ar ol cael ei gicio a ddim yn hapus.
Roedd tua 20 munud o’r gêm yn weddill, a ddyla fod y gêm drosodd. Ond am rhyw reswm, dyma Felin yn stopio chwarae fel oedda nhw, a gadael i Pen ddod yn ôl i’r gêm. Aeth hi’n 4-2, a daeth ambell i gynnig yn agos. Ond ar ol amser ychwannegol go hir, daeth y gêm i ben efo Felin wedi haeddu tri phwynt, ac wedi chwarae peldroed cystal ag y gwelwyd ers tro.
Felin: Keirion, Iw Bonc (Al Reis 90+1), Jack (Twts 73), Aron, Ryan, Berian; Chadley, Gruff W (Guto E 81), Gruff; Iw Eds (Ianto 73), Alwyn Subs eraill: Al Em