11/06/2026
Mae hi'n Wythnos y Cynhalwyr (Gofalwyr) a'r thema ar gyfer 2026 yw "Adeiladu Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Ofalwyr"
Mae Hamdden Am Oes yn falch o gynnig aelodaeth ratach i bob cynhaliwr cofrestredig, a phobl sy'n derbyn budd-daliadau cymwys, er mwyn iddyn nhw fwynhau'r buddion ddaw yn sgil ffordd o fyw sy'n iachach, mwy actif ac yn fwy cymdeithasol ei natur.
Mae nifer o'n cynhalwyr yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n treulio amser yn ein campfeydd, pyllau nofio neu ddosbarthiadau ffitrwydd a bod y rhain yn hanfodol i'w hiechyd a'u llesiant yn gyffredinol. Rydyn ni'n falch o'u helpu nhw, fel bod modd iddyn nhw barhau i helpu eraill.
Rydyn ni wedi gweithio mewn modd arloesol hefyd er mwyn cynnig gweithdai wythnosol am ddim i gynhalwyr. Rydyn ni wedi croesawu cymorth gan asiantaethau partner er mwyn creu’r sesiynau rheolaidd yma lle mae modd i gynhalwyr gymdeithasu a mwynhau ffitrwydd a symud. Rydyn ni wedi gofalu hefyd fod gwybodaeth hanfodol ar gael i'w helpu nhw yn eu rolau.
Cofiwch fod eich sesiwn gyntaf yn y gampfa, y pwll nofio neu mewn dosbarth ffitrwydd, yn rhad ac am ddim, a chewch wybod rhagor ynghylch aelodaeth ratach, yma: https://orlo.uk/5LPCV