21/08/2026
☀️🏃♀️⚽ Am haf gwych! 🎾🏀🏏
Yn ystod gwyliau'r haf, cyflwynodd ein tîm Datblygu Chwaraeon ac Iechyd raglen gyffrous o weithgareddau drwy StreetGames, Us Girls ac amrywiaeth o brosiectau partner, gan roi cyfle i bobl ifanc fod yn egnïol, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl.
Gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid gwerthfawr a Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon, cynigiom amrywiaeth eang o sesiynau chwaraeon a gweithgareddau corfforol a helpodd i ymgysylltu â phobl ifanc a'u hysbrydoli ledled y gymuned.
👏 Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran i wneud y rhaglen mor llwyddiannus.
🌟 Yn bwysicaf oll, rydym wrth ein bodd ein bod wedi ymgysylltu â dros 270 o bobl ifanc drwy gydol yr haf, gan greu profiadau cadarnhaol, meithrin hyder ac annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol gydol eu hoes.
Diolch i'n partneriaid Canolfan Hamdden penlan am ddarparu'r ganolfan ar gyfer y gwersylloedd!