12/06/2026
🚗 Hysbysiad i Gwsmeriaid | Maes Parcio Canolfan Hamdden yr Wyddgrug
Byddwch yn ymwybodol y disgwylir i’n maes parcio fod yn brysurach na’r arfer ddydd Mawrth 16 Mehefin rhwng 9am – 8pm.
Mae hyn oherwydd diwrnod prysur o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys:
🏊🚴🏃 Triathlon Tata Kids of Steel Sefydliad Brownlee
🏫 Noson Rieni Ysgol Alun ar ôl oriau ysgol
Os ydych yn ymweld â Chanolfan Hamdden yr Wyddgrug ar gyfer y gampfa, dosbarthiadau neu unrhyw weithgareddau eraill, caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith a pharcio.
Diolch am eich amynedd a’ch cefnogaeth wrth inni groesawu cymaint o bobl ifanc a theuluoedd i’n safle 💙