15/06/2026
Mae Hamdden am Oes yma i helpu!
Mae'n bleser gennyn ni gadarnhau bod Pwll Nofio a Champfa Bronwydd yn y Porth bellach yn fan casglu ar gyfer cynllun sy'n cefnogi teuluoedd a phlant lleol.
Gan weithio gydag Adran Addysg y Cyngor, mae Bronwydd bellach yn fan casglu ar gyfer elusen The Hygiene Bank sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r tlodi hylendid a all fod yn rhwystr i blant fynd i'r ysgol yn aml.
Canolfannau Hamdden am Oes Cwm Rhondda, Sobell a Llantrisant oedd y rhai cyntaf i ymuno â'r cynllun y llynedd ac mae bellach yn llwyddiant ysgubol – diolch i gefnogaeth enfawr ein cwsmeriaid anhygoel a'r gymuned ehangach.
Mae'r cynllun yn golygu bod modd i chi roi cynhyrchion hylendid sydd heb eu defnyddio a heb eu hagor megis siampŵ, cyflyrydd, gel cawod, brwsys dannedd, past dannedd, diaroglyddion a hyd yn oed powdr golchi a chyflyrydd ffabrig. Mae'r cyfan yn cael ei gasglu a'i ddosbarthu i deuluoedd lleol.
Rhagor o wybodaeth yma: https://orlo.uk/fY3fL