07/06/2026
💗 DIWRNOD RHYNGWLADOL GOR‑OROESWYR CANCR 💗
7 Mehefin
Heddiw, mae Clwb Rygbi Llangefni yn ymuno â chlybiau a chymunedau ledled y byd i ddathlu cryfder, gobaith a gwydnwch pob unigolyn sy’n byw gyda chancr neu wedi goroesi cancr.
Yn Fawrth 2025, cafodd ein gwirfoddolwraig annwyl Heather ddiagnosis o Gancr y Fron Cam 3 Gradd 3. Mae ei thaith wedi bod yn un o ddewrder, penderfyniad a chryfder anhygoel. Mae hi wedi wynebu pob cam gyda gras, nid yn unig drosti ei hun, ond dros ei theulu a’i chymuned.
Yn ddiweddar, gwnaeth ffrind annwyl i Heather, Arwel a’r clwb gyfraniad i ychwanegu’r rhuban cancr y fron at grysau chwarae adran yr ieuenctid 🎀
Mae’r rhodd hon yn anrhydeddu taith Heather ac yn cydnabod pob plentyn sydd â mam yn wynebu cancr.
Oherwydd nid yw cancr yn effeithio ar un person yn unig, mae’n cyffwrdd teuluoedd cyfan, ffrindiau a chymunedau.
Dywedodd Heather:
“Mae fy nhaith gyda chancr wedi bod yn anhygoel o anodd ac wedi ysgwyd ein byd mewn ffyrdd na feddyliasem erioed. Mae cancr wedi cyffwrdd ein teulu ddwywaith, cafodd mam Arwel gancr y fron hefyd, felly mae wedi bod yn hynod o anodd iddo ef fy ngweld i’n mynd trwy hyn eto.
Dyna pam mae’r rhodd gan ffrind annwyl i ni ac i’r clwb i ychwanegu’r rhuban cancr y fron at grysau chwarae’r adran iau mor arbennig i ni.
Mae’n ffordd brydferth o gydnabod fy nhaith i a phob plentyn sydd â mam yn wynebu cancr.Mae ein teulu rygbi wedi ein helpu i aros yn un.
Mae Clwb Rygbi Llangefni wedi codi ei freichiau o’n cwmpas i gyd — fi, Arwel a Rhion — gan roi cryfder, cysur a rhywbeth cadarn i afael ynddo pan oedd popeth arall yn teimlo’n ansicr. Mae’r gymuned hon yn golygu mwy i ni fel teulu nag y gall geir ei ddweud.”
Mae stori Heather yn ein hatgoffa nad ydym byth yn gwybod beth mae ein haelodau iau yn ei wynebu y tu ôl i’r wên ar y cae. Gall pob plentyn fod yn cario stori o ofn, gobaith neu ddewrder tawel.
Heddiw, rydym yn anrhydeddu Heather, pob goroeswr, a phob teulu sy’n cerdded y daith hon gyda’i gilydd.
💗 Rydych yn ein hysbrydoli. Rydych yn anhygoel. Nid ydych byth ar eich pen eich hun.
🎀
💗 INTERNATIONAL CANCER SURVIVORS DAY 💗
June 7th
Today, Llangefni Rugby Club proudly joins communities around the world in celebrating the strength, hope and resilience of everyone living with or beyond cancer.
In March 2025, our valued volunteer and dear friend Heather was diagnosed with Stage 3 Grade 3 Breast Cancer. Her journey has been one of courage, determination and extraordinary strength. She has faced every step with grace, not only for herself, but for her family and her community.
Recently, a dear friend of Heather, Arwel and the club made a donation to add the pink breast‑cancer ribbon to our junior section playing tops 🎀
This gesture honours Heather’s journey and acknowledges every child whose mum is facing cancer. Because cancer doesn’t just affect one person — it touches whole families, friends and communities.
Heather shared:
“My cancer journey has been incredibly tough and has shaken our world in ways we never expected. Cancer has touched our family twice, Arwel’s mum also had breast cancer — so it has been very difficult for him to watch me go through this too.
That’s why this donation from a dear friend of ours and the club to add the breast cancer ribbon to the junior playing tops means so much to us. It’s a beautiful way to acknowledge my journey and every child whose mum is facing cancer.
Our rugby family has helped hold us together. Llangefni Rugby Club has wrapped its arms around me, Arwel and Rhion, giving us strength, comfort and something steady to hold onto when everything else felt uncertain. This community means more to us as a family than words can ever really express.”
Heather’s story reminds us that we never truly know what our junior members may be going through behind the smiles on the pitch.
Every child may be carrying their own story of fear, hope or quiet bravery.
Today, we honour Heather, every survivor, and every family walking this path together.
💗 You inspire us. You amaze us. You are never alone.