13/09/2026
🔴🔵 Sgôr Terfynol | Final Score 🔵🔴
Dewi Stars 4 - 6 Ffostrasol Res
Yn anffodus, colli bu hanes y Sêr mewn gêm gyffrous yn Llanddewi-Brefi ddoe! Aeth yr ymwelwyr ar y blaen o'r smotyn, yn dilyn llawiad yn y cwrt cosbi. Llwyddodd y bytholwyrdd Andrew Jones – gôl-geidwad dros dro y Sêr ddoe – i arbed ymgais gyntaf Ryan Moore, ond ni allai wneud dim i atal yr ail ymdrech rhag mynd i'r rhwyd. Er gwaethaf y rhwystr cynnar, llwyddodd y Sêr i unioni’r sgôr yn gyflym; dyfarnwyd cic gosb arall am drosedd llaw, a'r tro hwn ni wnaeth Rupert Geddes unrhyw gamgymeriad o'r smotyn. Mewn hanner cyntaf lle'r aeth y gêm o un pen i'r llall, Carwyn Griffiths a roddodd y tîm oddi cartref ar y blaen, cyn i gic gosb arall – y tro hwn i dîm Llanddewi – roi cyfle perffaith i Rupert Geddes i wneud hi’n 2-2. Aeth Ffostrasol nôl ar y blaen ar ôl hanner awr, gyda chic gosb ddadleuol arall yn cael ei roi; y tro hwn, sicrhaodd Moore fod y sgôr yn mynd yn 3-2. Tua diwedd yr hanner, Ryan Moore gwblhaodd ei hat-tric gyda gorffeniad taclus wrth y postyn agosaf, gan wneud y sgôr yn 4-2 ar yr egwyl.
Roedd hi'n edrych fel bod Ffostrasol wedi sicrhau'r fuddugoliaeth yn gynnar yn yr ail hanner, gyda Adam Dirda yn gwneud y sgôr yn 5-2, ond ymladdodd y Sêr yn ôl; gwnaeth Iwan Davies y sgôr yn 5-3 yn dilyn gwaith da gan Rupert Geddes ar yr asgell chwith. Geddes a wnaeth y sgôr yn 5-4, gan gwblhau ei hat-tric o bellter agos yn dilyn ymgais ar y gôl gan Rhys Evans. Gweithiodd y Sêr yn galed i wneud hi’n gyfartal ond ni allent ddod o hyd i'r gôl honno, a Dirda – a oedd yn fygythiad cyson trwy gydol y prynhawn – a sicrhaodd y fuddugoliaeth yn y diwedd, gan wneud y sgôr yn 6-4 i dîm Ffostrasol a dod â phrynhawn difyr iawn i ben.
Diolch yn fawr i Llŷr Davies am noddi gêm ddoe, i'r New Inn am eu croeso ar ôl y gêm fel bob amser, ac i bawb yn Ffostrasol FC, pob lwc am weddill y tymor.
⭐️ Seren y Gêm - Oscar Cayo-Evans ⭐️
⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️
The Stars unfortunately came off second best yesterday in a 10-goal thriller at Llanddewi-Brefi! The visitors took the lead from the penalty spot, following a handball in the box. Veteran Andrew Jones, Stars's stand-in goalkeeper for the day saved Ryan Moore's initial effort but couldn't do anything to stop the rebound from finding the net. Despite the early setback, the Stars were quickly level, another penalty awarded for handball, this time Rupert Geddes making no mistake from the spot. In an end to end first-half it was Carwyn Griffiths who put the away side ahead before another penalty, this time for the Llanddewi men, gave Rupert Geddes the perfect opportunity to level the game at 2-2. Ffostrasol regained the lead after half an hour, with another controversial penalty awarded, Moore making sure this time to make it 3-2. Late in the half, it was Moore again who completed his hat-trick with a neat finish at the near post to make it 4-2 at the break.
Ffostrasol looked to have put the game to bed early in the second half, with Adam Dirda making it 5-2, but the Stars fought back, with Iwan Davies making it 5-3 following some good work by Rupert Geddes on the left-hand side. It was Geddes who made it 5-4, completing his hat-trick from close range following a Rhys Evans effort on goal. The Stars pushed for the equaliser but couldn't find that elusive goal and it was Dirda, a constant threat all afternoon, who finally killed the game, making it 6-4 to the Ffostrasol men late on to round off a very entertaining afternoon.
A big thank you to Llŷr Davies for sponsoring yesterday's match, to the New Inn for their post-match hospitality as always and to all at Ffostrasol FC, good luck for the rest of the season.
⭐️ MOTM - Oscar Cayo-Evans ⭐️