04/03/2025
Wythnos wedi bod ers i cyfres ddod i ben a dwi mor falch o’r 5 sydd dal wrthi yn defnyddio’r tŵls gafo nhw dros y cyfnod yn y tŷ Y NHW roth y gwaith caled i mewn ac wedi neud y mwyaf o’r cynllun.
I son mwy am y cynllun ffitrwydd roedd y fformat yn cynnwys 3 fidio yr wythnos - gallwch ddilyn ar wefan Ty Ffit , gweithgaredd cardio o’i dewis (oedd angen tracio cynydd) ac arferion dyddiol i wella ansawdd cwsg, symud mwy etc.
Neshi enjoio bod yn rhan o’r rhaglen yn arw ac yn teimlo yn lwcus i weithio hefo arbenigwyr eraill a Sioned. Roedd hefyd yn bleser cael gwario amser hefo’r mentoriaid ffantastic ⭐️