30/05/2026
🏆 🔵 Noson Wobrwyo Dan 16 🟡🏆
Am dymor brysur i’r bois dan 16.
Blwyddyn arall o rygbi arbennig, atgofion i’w trysori, digonedd o chwerthin a’r balchder o gyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Benfro eto eleni.
Ond yn bwysicach holl mae’r cyfeillgarwch, y profiadau a’r egwyddorion a ddysgwyd ar y daith drwy’r adran iau wedi roi sail cryf i’r bechgyn wrth iddyn nhw symud ymlaen i’r cam nesaf gyda’r Ieuenctid. 💙💛
🫶🏼 Croesawyd nifer o wynebau newydd i’n tîm eleni gan wneud argraff fawr ar y cae ac oddi ar y cae rygbi a rydym yn gyffrous i’w gweld nhw’n parhau eu taith gydag Aberaeron.
I’r holl gefnogwyr, rhieni, brodyr a chwiorydd, mamgus a thadcus, ffrindiau a phawb sydd wedi sefyll wrth ochr y cae ymhob tywydd rydym yn diolch o waelod calon i chi. Mae’ch cefnogaeth barhaus wedi helpu i greu teulu rygbi unigryw ac arbennig iawn ac rydym mor ddiolchgar o allu rannu’r daith hon gyda chi gyd.
🤝 Mae diolch arbennig yn mynd i’n hyfforddwr Steffan Bwtch sydd wedi roi ei egni a’i amser i’r criw yma dros y ddwy flynedd diwethaf gan arwain y tîm i rownd derfynol Cwpan Sir Benfro ddwywaith tra’n annog a chefnogi’r bois i gyrraedd eu potential yn nhîm Ysgolion Ceredigion a charfan dan 16 y Scarlets. Mae’r amser, yr arweiniad a’r ymroddiad a roddwyd gan Steff Bwtch wedi bod yn nodweddiadol yn natblygiad y bois fel chwaraewyr rygbi ifanc. Rydym fel rhieni mor ddiolchgar am bopeth mae Steff wedi rhoi i’r tîm.
🤝 Diolch hefyd i Andrew Crowe sydd wedi ymuno â ni tymor hyn a ddod yn aelod gwerthfawr iawn o’r tîm hyfforddi. Mae dy gefnogaeth tawel, dy ddylanwad bositif a dy frwdfrydedd wedi bod mor werthfawr a rydym yn edrych ymlaen at y cyd-weithio tymor nesaf.
🤝 Ac yn olaf diolch yn fawr iawn i’r hyfforddwyr sydd wedi bod yno bob blwyddyn ar hyd y daith o 10 mlynedd drwy’r Adran Iau sef Gwion, Wyn, Rob a Keith. Mae eich ymroddiad, cefnogaeth a’ch anogaeth i’r tîm wedi bod yn ran anferthol yn eu datblygiad fel unigolion a thîm gyfan.
Wrth i’r bennod yma ddod i ben, edrychwn ymlaen at ddechrau pennod newydd gyda’r Ieuenctid gyda holl aelodau Clwb Rygbi Aberaeron yn gefn iddynt. Mae’r Clwb gyfan yn falch iawn o’r hyn mae’r criw yma o fechgyn wedi cyflawni hyd yn hyn ac yn gyffrous i weld beth ddaw yn y dyfodol.
Yn sicr mae dyfodol Clwb Rygbi Aberaeron yn edrych yn ddisglair.
🏆Enillwyr y gwobrau 🏆
💙 Chwaraewr y Chwaraewyr - Owen Hoyles
💛Chwaraewr yr Hyfforddwyr - Josh Hughes
💙Chwaraewr y Cefnogwyr - Jac Evans
💛Y chwaraewr â’r cynnydd mwyaf - Jac Evans
💙Prif sgoriwr y ceisiau - Alfie Crowe
Llongyfarchiadau i bob un o’r enillwyr sydd wedi gweithio’n galed yn ystod y tymor, enillwyr haeddiannol iawn. 👏🏼
Hwyl fawr o’r tîm dan 16. 👋 💙💛
- - - - - - -
🏆🔵 U16’s Annual Awards 🟡🏆
What a season it has been for our U16s.
Another year of fantastic rugby, unforgettable memories, plenty of laughs, and the proud achievement of reaching a second Pembs Cup Final.
More importantly, the friendships, experiences, and values built along the way have laid strong foundations as these boys prepare to take the next step into Youth Rugby. 💙💛
This season has also seen new faces join the squad, each making a huge contribution both on and off the field. We’re excited to see them continue their journey alongside their teammates at youth level.
🫶🏼 To all our supporters, parents, siblings, grandparents, friends, and everyone who has stood on the touchline come rain or shine, thank you. Your encouragement, commitment, and unwavering support have helped create a special rugby family, and we are incredibly grateful to have shared this journey with you.
🤝 A special thank you must go to Coach Steff Bwtch, who has dedicated the last two years to these boys. Guiding them to two Pembs Cup Finals while helping players progress to County and Scarlets pathways is a remarkable achievement, but your impact reaches far beyond results. Your time, commitment, guidance, and belief in the boys have helped shape them both as rugby players and as young men. We cannot thank you enough for everything you have given to this team.
🤝 Thank you also to Andrew Crowe, who joined us this season and quickly became an integral part of the coaching team. Your positive influence, support, and enthusiasm have been invaluable, and we look forward to having you alongside us next season.
🤝 Last, but certainly not least, to Gwion, Wyn, Rob, and Keith. Thank you. You have been constants throughout the boys’ entire junior rugby journey. Your dedication, encouragement, and passion for their development have played a huge part in shaping the players they are today. The impact you have had on this group will never be underestimated.
As this chapter closes, another exciting one begins. These boys now move forward into Youth Rugby with the support of an entire club behind them. Everyone at Aberaeron RFC is immensely proud of what they have achieved and excited to see what the future holds.
The future is certainly bright at Aberaeron RFC.
🏆 Season Award Winners 🏆
💙Players’ Player – Owen Hoyles
💛Coaches’ Player – Josh Hughes
💙Supporters’ Player – Jac Evans
💛Most Improved Player – Jac Evans
💙Top Try Scorer – Alfie Crowe
👏🏼 Congratulations to all of our award winners. Every one of you has worked incredibly hard throughout the season, and these recognitions are thoroughly deserved.
U16s signing off. 👋 💙💛