23/07/2026
Ydy eich tacluso diwedd tymor 2026 wedi dechrau eto? Y glanhau ystafell wely, y clirio cwpwrdd cotiau ac esgidiau? Wel os hynny, mae mewn pryd ar gyfer ein helfa Peli Hoci 202!🏑
Bob blwyddyn rydyn ni’n colli tua 30 pêl hoci.
Beth?! meddech chi. Mae hynny’n eithaf diofal!
Ar ddiwedd pob sesiwn mae ein plant gwych yn helpu i dacluso’r cae. Efallai y bydd rhywun yn codi’r bêl olaf sydd ar ôl, ond erbyn hynny mae’r cynhwysydd peli eisoes yn cael ei gloi, felly mae’n mynd â’r bêl adref i ofalu amdani tan yr wythnos ganlynol… ac yna’n anghofio amdani.
Neu efallai bod rhiant caredig yn mynd ag ychydig o beli i dwrnamaint i helpu gyda’r cynhesu, ond wedyn mae’r peli’n aros ym mwt y car neu boced y drws am sbel.
Neu efallai bod rhywun wedi taro pêl dros y ffens, heb lwyddo i’w chael hi’n ôl, ac mae rhywun arall yn ei chanfod wrth fynd heibio.
Does neb yn dwyn peli hoci! 😂
Felly, beth rydyn ni’n gofyn i chi ei wneud?
Os byddwch chi’n dod ar draws pêl hoci y clwb (y rhai gwyn gyda’r tyllau bach) wrth glirio dros yr haf, dewch â hi i’r clwb a’i thaflu dros ffens y cae. Gawn ni weld faint allwn ni eu cael yn ôl dros yr haf? Byddwn ni’n cadw cyfrif ac yn rhannu’r cyfanswm.
Pam trafferthu postio hyn, a pham ddylai pobl boeni? Mae pob pêl yn costio tua £3. (Gwglwch hyn i fynd lawr twll cwningen am wahanol fathau o beli hoci, prisiau a gostyngiadau prynu mewn swmp! 🤣)
30 × £3 = £90.
Felly, cyn i’r tymor newydd ddechrau, rydyn ni eisoes £90 ar ei hôl hi. Cymerwch hynny dros y 3 blynedd diwethaf, ac rydyn ni bron £300 ar ei hôl hi.
Dewch i gael rhywfaint o’r a***n hwnnw’n ôl – £3 ar y tro.
Mae llenwi ceisiadau am grantiau yn cymryd llawer o amser, felly os gallwn ni gael y peli hoci rydyn ni eisoes wedi talu amdanyn nhw yn ôl, rydyn ni’n arbed a***n ac amser ein gwirfoddolwyr.
Dewch i ailuno’r peli hoci bach yma gyda’u ffrindiau, yn ôl i’w cartref clyd yn y bwced beli yn y cynhwysydd. ❤️🏑
Pen Llŷn – gallwn ni wneud hyn! Beth am gael 33 pêl yn ôl ac arbed £100 i’r clwb?
💪😀
---
Has your 2026 end of term bedroom tidy, coat and shoe cupboard clear out started yet?
Just in time, our 2026 hockey ball amnesty is on!
Every year we lose about 30 hockey balls.
Eh? You say, that’s careless.
At the end of practice our brilliant kids help tidy the pitch. They might pick up the last stray ball but find the container already being locked so they look after the ball until next week, but then forget about it. Or a helpful parent takes a few balls to a tournament to help with warm ups but afterwards the balls stay in the car boot or door pocket for a while.
Maybe someone chipped one over the fence but couldn’t find it and it gets found by someone walking by. No one is stealing hockey balls 😂
So, what are we asking of you?
If a club dimple hockey ball turns up during your summer clear out please take it to the club and chuck it over the pitch fence. Let’s see how many we can get back over the summer - we’ll post a tally.
Why bother to post this and why should people care?
Each ball costs about £3 (only google that if you want to go down a rabbit hole about hockey ball types, costs and discounts for bulk!)
30 x £3 is £90 so, before next season we’re £90 down.
Take that back over the last 3 years and we’re almost £300 down.
Let’s get some of that back, £3 by £3.
It takes quite a long time to do a grant application so, if we can get the hockey balls back that we’ve already paid for we’re saving money and volunteer time.
Let’s get these separated hockey balls back to their home, back with their little hockey ball mates, into their cosy home in the ball bucket in the container.
Come on Pen Llyn, we can do it - how about getting 33 balls back and saving the club £100?
💪😀