17/06/2026
Llongyfarchiadau enfawr i'n merched ar ôl eu hail dwrnament! 🖤⚽
Roedden nhw'n chwarae'n arbennig o dda drwy gydol y dydd ac fe wnaethon nhw gyrraedd y rownd gynderfynoll. Ond nid y canlyniad sy'n diffinio'r diwrnod.
Mae'n rhaid canmol y dewrder, yr ymroddiad a'r hyder a ddangosodd y merched wrth gerdded allan i'r cae i wynebu timau oedd eisoes wedi'u sefydlu ac wedi bod yn chwarae gyda'i gilydd ers blynyddoedd.
Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd. Mae'r
cynnydd maen nhw wedi'i wneud mewn cyfnod mor fyr yn anhygoel, ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn.
Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i Pace & Fire am noddi cit newydd y tîm. Roedd y merched yn edrych yn wych yn eu cit newydd, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnog*eth yn fawr. 💓🖤
Dal ati ferched – ond y dechrau i ni ⚽👏